ID badges: Hide | Show

RHAN 2Graddau arolygu

Dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddarparu gradd arolygu ar gyfer gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol

2.  Pan fydd Gweinidogion Cymru yn cynnal arolygiad o wasanaeth rheoleiddiedig perthnasol, rhaid iddynt roi, mewn cysylltiad â’r asesiadau y cyfeirir atynt yn adran 36(2)(a) i (c) o’r Ddeddf, unrhyw radd y maent yn ystyried ei bod yn briodol.

Gofyniad ynghylch arddangos graddau arolygu

3.—(1Rhaid i ddarparwr gwasanaeth perthnasol ddangos ar bob gwefan a gynhelir ganddo neu ar ei ran, ac sy’n ymwneud â’i wasanaeth rheoleiddiedig perthnasol, y radd arolygu ddiweddaraf—

(a)ar gyfer pob gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol, a

(b)ar gyfer pob man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef ac y mae’r radd yn gymwys iddo.

(2Rhaid i ddarparwr gwasanaeth perthnasol sicrhau bod copi o’r wybodaeth y mae paragraff (1) yn gymwys iddi yn cael ei roi ar gael ar gais.

(3Rhaid i ddarparwr gwasanaeth perthnasol arddangos y radd arolygu ddiweddaraf yn y man y darperir y gwasanaeth ynddo neu ohono ac y mae’r radd yn gymwys iddo.

(4Ond nid yw paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â’r canlynol—

(a)gwasanaeth cartref gofal a ddarperir mewn man—

(i)lle y’i darperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu

(ii)lle y mae’n lletya pedwar neu lai o unigolion;

(b)man y darperir gwasanaeth cymorth cartref ohono nad yw’n hygyrch i aelodau o’r cyhoedd.

(5Rhaid i radd arolygu y mae’n ofynnol ei harddangos yn unol â gofynion y rheoliad hwn—

(a)cael ei harddangos yn ddi-oed ar ôl iddi gael ei chyhoeddi mewn adroddiad arolygu;

(b)bod ar y ffurf benodedig a ddynodir gan Weinidogion Cymru;

(c)bod yn ddarllenadwy;

(d)cynnwys y dyddiad y rhoddwyd y radd arolygu;

(e)cael ei harddangos yn amlwg mewn lleoliad sy’n hygyrch—

(i)i unigolion sy’n cael y gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol;

(ii)i ymwelwyr â’r man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol ynddo neu ohono.

Apelio yn erbyn graddau arolygu

4.—(1Caiff darparwr gwasanaeth perthnasol apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn gradd arolygu a roddwyd pan fo’r amodau a nodir ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.

(2Yr amodau yw—

(a)bod y darparwr gwasanaeth perthnasol, o fewn 10 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cael(1) copi o adroddiad arolygu(2), wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig ei fod yn ceisio adolygiad o’r radd arolygu ar y seiliau a ganlyn—

(i)anghywirdeb ffeithiol;

(ii)tystiolaeth anghyflawn,

(b)bod y darparwr gwasanaeth perthnasol wedi cael canlyniad adolygiad Gweinidogion Cymru o’r radd arolygu,

(c)bod y darparwr gwasanaeth perthnasol, o fewn 5 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cael canlyniad yr adolygiad, wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig ei fod yn ceisio apelio yn erbyn canlyniad yr adolygiad, a

(d)bod yr apêl yn cael ei gwneud ar yr un seiliau â’r rhai y dibynnir arnynt i geisio’r adolygiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).

(3Pan fo apêl yn cael ei gwneud gan ddarparwr gwasanaeth perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ystyried yr apêl a chadarnhau’r radd arolygu derfynol drwy anfon adroddiad arolygu terfynol at y darparwr gwasanaeth perthnasol;

(b)cydymffurfio â’r ddyletswydd i gyhoeddi’r adroddiad arolygu o dan adran 36(3)(a) o’r Ddeddf.

(1)

Gweler adran 184(8) o’r Ddeddf.

(2)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i arolygiad gael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad ar yr arolygiad ac anfon copi ohono at y darparwr gwasanaeth o dan adran 36(1) o’r Ddeddf.