ID badges: Hide | Show

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch graddau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas ag ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth yn dilyn arolygiad o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Y graddau y mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy yw’r rhai a roddir gan Weinidogion Cymru mewn adroddiad arolygu mewn perthynas â gwasanaethau cartrefi gofal neu wasanaethau cymorth cartref o dan adran 36(2)(d) o’r Ddeddf.

Yn unol â’r pŵer yn adran 37(2)(a) o’r Ddeddf, mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau cartrefi gofal ar gyfer oedolion a darparwyr gwasanaethau cymorth cartref i arddangos graddau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn modd a bennir ac mewn man a bennir.

Yn unol ag adran 37(2)(c) o’r Ddeddf, mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i ddarparwr gwasanaeth apelio yn erbyn gradd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan amgylchiadau penodol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â gofynion penodedig sy’n ymwneud ag arddangos graddau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys diffiniadau o dermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y graddau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn adroddiadau arolygu. Mae rheoliad 2 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi gradd pan fyddant yn cynnal arolygiad o wasanaeth cartref gofal neu wasanaeth cymorth cartref. Mae rheoliad 3 yn rhagnodi’r mannau y mae rhaid arddangos graddau ynddynt a’r modd y mae rhaid i raddau gael eu harddangos. Mae’n cynnwys gofynion i raddau a roddir gael eu dangos ar wefannau, a hefyd i raddau gael eu harddangos ym mhob man y darperir y gwasanaethau ynddo neu ohono. Mae rheoliad 4 yn cynnwys darpariaeth i ddarparwr gwasanaeth apelio yn erbyn graddau pan fo amodau penodol wedi eu bodloni.

Mae Rhan 3 yn ymdrin â throseddau. Mae rheoliad 5 wedi ei wneud o dan adran 45 o’r Ddeddf ac yn darparu bod methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion darpariaethau penodedig yn y Rheoliadau hyn yn drosedd.

Mae Rhan 4 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 ac yn nodi pa droseddau am dorri gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn sy’n gallu bod yn destun hysbysiad cosb a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 52 o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.