Offerynnau Statudol Cymru
2025 Rhif 389 (Cy. 78)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025
Gwnaed
26 Mawrth 2025
Yn dod i rym
31 Mawrth 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 37(1) a (2)(a) ac (c), 45, 52(1)(1) a (6) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(2) (“y Ddeddf”) ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, fel sy’n ofynnol gan adran 37(3) o’r Ddeddf.
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 187(2)(h) a (j) o’r Ddeddf ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(3).
Mae adran 52(1) yn cyfeirio at droseddau sy’n “rhagnodedig”. Mae adran 189 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) yn diffinio “a ragnodir” a “rhagnodedig” i olygu “wedi ei ragnodi drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru”.
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).