NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân gywiriadau i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) a Defnyddiau Bwyd Anifeiliaid a Fwriedir at Ddibenion Maethol Penodol (Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/1251 (Cy. 209)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.