NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“Rheoliadau Adeiladu”) fel y maent yn gymwys o ran Cymru, a Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 (“Rheoliadau Cymeradwywyr”). Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gosod gofynion newydd ar gyfer seilwaith digidol a chysylltedd mewn anheddau sy’n cael eu hadeiladu o’r newydd.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol nad yw’r gofynion newydd yn gymwys odani.
Mae rheoliad 4(2) yn mewnosod rheoliadau newydd 44ZAA i 44ZC yn y Rheoliadau Adeiladu. Mae’r diwygiadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n codi annedd newydd gyflwyno i’r awdurdod lleol, cyn cychwyn ar waith adeiladu, fanylion unrhyw gysylltiad â rhwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus sydd i’w ddarparu ar gyfer yr annedd honno, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth sy’n ategu ei ddibyniaeth ar yr esemptiadau a nodir yn rheoliadau 44ZB a 44ZC, sy’n addasu neu’n eithrio’r gofynion newydd mewn achosion penodol.
Mae rheoliad 4(4) yn mewnosod paragraffau newydd RA1 ac RA2 yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau Adeiladu. Mae’r paragraffau hynny yn cynnwys gofynion newydd sy’n ymwneud â darparu, o fewn anheddau sy’n cael eu hadeiladu o’r newydd, “gigabit-ready physical infrastructure” a chysylltiad â “gigabit-capable public electronic communications network” (y diffinnir y termau hynny yn rheoliad 44C o’r Rheoliadau Adeiladu, fel y mae wedi ei ddiwygiwyd gan reoliad 4(3) o’r Rheoliadau hyn).
Mae rheoliad 5 yn cynnwys diwygiadau cysylltiedig i’r Rheoliadau Cymeradwywyr.
Mae Deddf Adeiladu 1984 yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol i gymeradwyo a chyhoeddi dogfennau sy’n cynnwys canllawiau ymarferol mewn cysylltiad â gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Rheoliadau Adeiladu. Mae’r pŵer hwnnw yn arferadwy gan Weinidogion Cymru i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru.
Mae Dogfen Gymeradwy R Cyfrol 1, rhifyn 2025, yn cynnwys canllawiau ymarferol ar fodloni’r gofynion newydd sydd wedi eu mewnosod yn y Rheoliadau Adeiladu gan yr offeryn hwn. Mae’r Dogfennau Cymeradwy wedi eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru a gellir eu gweld ar www.llyw.cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar y wefan ar www.llyw.cymru.