ID badges: Hide | Show

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddatgan darpariaethau Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion (Diwygio) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/260 (Cy. 54)) (“Rheoliadau 2025”). Cywirodd Rheoliadau 2025 wall teipograffyddol yn yr Atodlen ffioedd i Reoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion 2006 (O.S. 2006/2285 (“Rheoliadau 2006”).

Mae rheoliad 3 yn dirymu Rheoliadau 2025 er mwyn mynd i’r afael â gwall yn y testun cyfatebol Cymraeg.

Mae rheoliad 2 yn ailddatgan y diwygiadau a wnaed gan Reoliadau 2025.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.