Offerynnau Statudol Cymru
2025 Rhif 370 (Cy. 73)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion (Diwygio a Dirymu) (Cymru) 2025
Gwnaed
19 Mawrth 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
21 Mawrth 2025
Yn dod i rym
27 Mawrth 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45(1), (2) ac 48(1)(b) ac (c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).
Yn unol ag adran 48(4A)(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar y cynnig i wneud y Rheoliadau hyn.
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4).
1990 p. 16. Diwygiwyd adrannau 45(1) a (2) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 gan baragraffau 7, 8 ac 20 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”).
Trosglwyddwyd y swyddogaethau, a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.
EUR 2002/178, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.