ID badges: Hide | Show

Offerynnau Statudol Cymru

2025 Rhif 370 (Cy. 73)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion (Diwygio a Dirymu) (Cymru) 2025

Gwnaed

19 Mawrth 2025

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

21 Mawrth 2025

Yn dod i rym

27 Mawrth 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45(1), (2) ac 48(1)(b) ac (c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 48(4A)(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar y cynnig i wneud y Rheoliadau hyn.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4).

(1)

term deddf 1999 1990 p. 16. Diwygiwyd adrannau 45(1) a (2) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 gan baragraffau 7, 8 ac 20 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”).

(2)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau, a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

(4)

EUR 2002/178, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.