RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW
Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir i blant
8Amrywio neu ganslo cofrestriad fel darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad
(1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 11, ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
“(4)Yn achos cais o dan is-adran (1)(a)(i) i ddarparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, rhaid i’r cais hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).”
(3)Yn adran 12—
(a)yn is-adran (1), yn lle “is-adran (2)” rhodder “is-adrannau (1A) a (2)”;
(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Yn achos cais o dan adran 11(1)(a)(i) i ddarparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, ni chaiff Gweinidogion Cymru ond caniatáu cais os ydynt wedi eu bodloni bod y darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).”
(4)Yn adran 13, yn is-adran (3)—
(a)ar ddiwedd paragraff (a) hepgorer “neu”;
(b)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “, neu”;
(c)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(c)os ydynt wedi eu bodloni, pan fo’r gwasanaeth yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad, nad yw’r darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).”
(5)Yn adran 13, ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
“(3A)Gweler hefyd baragraff 3(4)(a) o Atodlen 1A, mewn cysylltiad ag amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth i ddileu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad yn ystod y cyfnod trosiannol a ddiffinnir yn yr Atodlen honno.”
(6)Yn adran 15—
(a)yn is-adran (1), ar ôl paragraff (f) mewnosoder— “;
(g)mae pob un o’r gwasanaethau y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hwy yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad ac nid yw’r darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).”;
(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Gweler hefyd baragraff 3(4)(b) o Atodlen 1A, mewn cysylltiad â chanslo cofrestriad darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad yn ystod y cyfnod trosiannol a ddiffinnir yn yr Atodlen honno.”