ID badges: Hide | Show

RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW

Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir i blant

8Amrywio neu ganslo cofrestriad fel darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad

section 8 1 (1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

section 8 2 (2)Yn adran 11, ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4)Yn achos cais o dan is-adran (1)(a)(i) i ddarparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, rhaid i’r cais hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).

section 8 3 (3)Yn adran 12—

section 8 3 a (a)yn is-adran (1), yn lle “is-adran (2)” rhodder “is-adrannau (1A) a (2)”;

section 8 3 b (b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Yn achos cais o dan adran 11(1)(a)(i) i ddarparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, ni chaiff Gweinidogion Cymru ond caniatáu cais os ydynt wedi eu bodloni bod y darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).

section 8 4 (4)Yn adran 13, yn is-adran (3)—

section 8 4 a (a)ar ddiwedd paragraff (a) hepgorer “neu”;

section 8 4 b (b)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “, neu”;

section 8 4 c (c)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)os ydynt wedi eu bodloni, pan fo’r gwasanaeth yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad, nad yw’r darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).

section 8 5 (5)Yn adran 13, ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)Gweler hefyd baragraff 3(4)(a) o Atodlen 1A, mewn cysylltiad ag amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth i ddileu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad yn ystod y cyfnod trosiannol a ddiffinnir yn yr Atodlen honno.

section 8 6 (6)Yn adran 15—

section 8 6 a (a)yn is-adran (1), ar ôl paragraff (f) mewnosoder— ;

(g)mae pob un o’r gwasanaethau y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hwy yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad ac nid yw’r darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).;

section 8 6 b (b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Gweler hefyd baragraff 3(4)(b) o Atodlen 1A, mewn cysylltiad â chanslo cofrestriad darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad yn ystod y cyfnod trosiannol a ddiffinnir yn yr Atodlen honno.