ID badges: Hide | Show

RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW

Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir i blant

6Person addas a phriodol: ystyriaethau perthnasol

(1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 9(7), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(e)pan fo’r person yn ddarparwr gwasanaeth—

(i)sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, a

(ii)sy’n ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1),

a yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod y darparwr wedi ymrwymo i drefniant ariannol sy’n dod o fewn adran 9A.

(3)Ar ôl adran 9 mewnosoder—

9APrawf person addas a phriodol: trefniadau ariannol sy’n ymwneud â gwasanaethau plant o dan gyfyngiad

(1)At ddibenion y prawf person addas a phriodol yn adran 9, mae trefniant ariannol yn dod o fewn yr adran hon os yw’n drefniant gyda neu er lles person perthnasol—

(a)sy’n afresymol neu’n anghymesur o dan yr holl amgylchiadau, a

(b)a all (o ganlyniad) danseilio gallu’r darparwr gwasanaeth i ddilyn ei amcanion neu ei ddibenion (ac o ran hynny, gwele‍r adran 6A(3)).

(2)Wrth benderfynu a ymrwymwyd i drefniant ariannol o’r fath, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)maint neu werth y trefniant a’i ddiben (gan gynnwys i ba raddau y mae’n ymwneud â darparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad);

(b)maint neu werth y trefniant o gymharu â faint o incwm y mae’r darparwr gwasanaeth yn ei gael o ddarparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad;

(c)y gyfran o gyfanswm incwm y darparwr gwasanaeth sy’n dod o ddarparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad;

(d)llesiant plant sy’n cael gofal a chymorth (yn narpariaeth y gwasanaeth plant o dan gyfyngiad).

(3)At ddibenion adran 9(7)(e) a’r adran hon—

(a)mae “ymrwymo i drefniant ariannol” yn cynnwys gwneud taliad neu ddyfarnu unrhyw fudd (uniongyrchol neu anuniongyrchol) sydd â gwerth ariannol, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny (ac mae cyfeiriadau at drefniant ariannol i’w darllen fel petaent yn cynnwys cyfres o drefniadau);

(b)ystyr “person perthnasol” yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)cyflogai, gweithiwr neu swyddog i’r darparwr gwasanaeth;

(ii)person cysylltiedig â chyflogai, gweithiwr neu swyddog i’r darparwr gwasanaeth;

(iii)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn rhan o grŵp o bersonau sydd o dan berchnogaeth ar y cyd neu reolaeth ar y cyd, unrhyw berson o fewn y grŵp hwnnw.

9BTrefniadau ariannol sy’n ymwneud â gwasanaethau plant o dan gyfyngiad: darpariaeth atodol

(1)Yn adran 9A(3)(b)—

(a)mae i “cyflogai” a “gweithiwr” yr ystyron a roddir i “employee” a “worker” gan adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18);

(b)ystyr “swyddog” yw—

(i)unrhyw gyfarwyddwr, unrhyw reolwr, unrhyw ysgrifennydd neu unrhyw swyddog tebyg arall yn y darparwr gwasanaeth (ac, mewn perthynas â darparwr gwasanaeth y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, ystyr “cyfarwyddwr” yw aelod o’r darparwr gwasanaeth);

(ii)unrhyw berson arall sydd â rheolaeth gyffredinol dros y darparwr gwasanaeth, ac sy’n rheoli’r darparwr hwnnw,

a, phan fo’r darparwr gwasanaeth yn elusen, mae hyn yn cynnwys unrhyw ymddiriedolwr elusen o fewn ystyr y Deddfau Elusennau.

(2)At ddibenion adran 9A(3)(b), mae’r canlynol yn gysylltiedig â chyflogai, gweithiwr neu swyddog i’r darparwr gwasanaeth—

(a)ei blentyn, ei riant, ei ŵyr neu ei wyres, ei dad-cu/daid neu ei fam-gu/nain, ei frawd neu ei chwaer;

(b)ei briod neu ei bartner sifil;

(c)person sy’n cynnal busnes mewn partneriaeth ag ef neu ag unrhyw berson sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (b);

(d)sefydliad sy’n cael ei reoli—

(i)ganddo ef neu gan unrhyw berson sy’n dod o fewn paragraff (a), (b) neu (c), neu

(ii)gan ddau neu ragor o bersonau sy’n dod o fewn is-baragraff (i), o’u cymryd gyda’i gilydd;

(e)corff corfforaethol—

(i)y mae gan y person, neu unrhyw berson cysylltiedig sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c), fuddiant sylweddol ynddo, neu

(ii)y mae gan ddau neu ragor o bersonau sy’n dod o fewn is-baragraff (i), o’u cymryd gyda’i gilydd, fuddiant sylweddol ynddo.

(3)Yn is-adran (2)—

(a)mae “plentyn” yn cynnwys llysblentyn;

(b)pan na fo dau berson yn briod â’i gilydd, nac yn bartneriaid sifil i’w gilydd, ond yn byw gyda’i gilydd fel pe baent yn gwpl priod neu’n bartneriaid sifil, mae pob un ohonynt i’w drin fel pe bai’n briod neu’n bartner sifil i’r llall;

(c)mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i “institution” gan adran 9(3) o Ddeddf Elusennau 2011 ac mae person yn rheoli sefydliad os yw’r person yn gallu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, sicrhau bod materion y sefydliad yn cael eu cynnal yn unol â dymuniadau’r person;

(d)mae i gyfeiriadau at berson a chanddo “buddiant sylweddol mewn corff corfforaethol” yr ystyr a roddir i berson a chanddo “substantial interest in a body corporate” gan adran 352 o Ddeddf Elusennau 2011.

(4)At ddibenion adran 9A(3)(b)(iii), mae grŵp o bersonau i’w drin fel pe bai o dan reolaeth ar y cyd os yw’r grŵp—

(a)yn grŵp o gyrff corfforaethol sydd wedi eu cydgysylltu,

(b)yn cynnwys cyrff corfforaethol sydd oll o dan reolaeth un person neu un grŵp o bersonau, neu

(c)yn cynnwys un neu ragor o gyrff corfforaethol a pherson, neu grŵp o bersonau, sydd â rheolaeth dros y corff corfforaethol hwnnw neu’r cyrff corfforaethol hynny.

(5)Yn is-adran (4), ystyr “grŵp o gyrff corfforaethol sydd wedi eu cydgysylltu” yw grŵp sy’n cynnwys dau neu ragor o gyrff corfforaethol y mae pob un ohonynt wedi eu cydgysylltu â’i gilydd.

(6)At ddibenion is-adran (5), mae unrhyw ddau gorff corfforaethol yn rhai sydd wedi eu cydgysylltu—

(a)os yw un ohonynt yn gorff corfforaethol y mae’r llall yn is-gorff iddo, neu

(b)os yw’r ddau ohonynt yn is-gyrff i un corff corfforaethol (ac mae “cyrff corfforaethol sydd wedi eu cydgysylltu” i’w ddehongli yn unol â hynny).

(7)At ddibenion is-adran (4)(b) ac (c), mae person neu grŵp o bersonau yn rheoli corff corfforaethol os yw’r person neu’r grŵp o bersonau yn gallu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, sicrhau bod materion y corff corfforaethol yn cael eu cynnal yn unol â dymuniadau’r person neu’r grŵp o bersonau.

(8)Yn yr adran hon—