RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW
Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir i blant
5Caniatáu neu wrthod cofrestriad mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad
(1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 7(1), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)yn achos cais mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, fod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1);”.
(3)Yn adran 7(3)—
(a)ar ddiwedd paragraff (a) hepgorer “a”;
(b)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)rhaid iddo, yn achos cais mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, fod yn ddarostyngedig i amod bod y darparwr gwasanaeth yn hysbysu Gweinidogion Cymru am unrhyw amgylchiadau nad yw’r darparwr bellach yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1) odanynt, a”.