ID badges: Hide | Show

RHAN 3CYFFREDINOL

28Darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(2)O ran rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)cânt ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, gan gynnwys y Ddeddf hon;

(b)maent i’w gwneud drwy offeryn statudol.

(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan yr adran hon ac sy’n diwygio, yn addasu neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(4)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

(5)Yn is-adran (3), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf gan Senedd Cymru;

(b)Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.