ID badges: Hide | Show

RHAN 3CYFFREDINOL

28Darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.

section 28 1 (1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

section 28 1 a (a)gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon;

section 28 1 b (b)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

section 28 2 (2)O ran rheoliadau o dan yr adran hon—

section 28 2 a (a)cânt ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, gan gynnwys y Ddeddf hon;

section 28 2 b (b)maent i’w gwneud drwy offeryn statudol.

section 28 3 (3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan yr adran hon ac sy’n diwygio, yn addasu neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

section 28 4 (4)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

section 28 5 (5)Yn is-adran (3), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

section 28 5 a (a)Deddf gan Senedd Cymru;

section 28 5 b (b)Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

section 28 5 c (c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.