ID badges: Hide | Show

RHAN 2GOFAL IECHYD

26Darparu gwasanaethau iechyd gan awdurdodau lleol

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 47(1)—

(a)daw’r geiriau o “y byddai gwneud hynny yn gysylltiedig” hyd at y diwedd yn baragraff (a);

(b)ar ddiwedd y paragraff hwnnw mewnosoder , a

(b)y byddai’r gwasanaeth neu’r cyfleuster o dan sylw o natur y gellid disgwyl i’r awdurdod lleol ei ddarparu.

(3)Yn adran 47(2)—

(a)daw’r geiriau o “y byddai gwneud hynny’n gysylltiedig” hyd at y diwedd yn baragraff (a);

(b)ar ddiwedd y paragraff hwnnw mewnosoder , a

(b)y byddai’r gwasanaeth neu’r cyfleuster o dan sylw o natur y gellid disgwyl i’r awdurdod lleol ei ddarparu.