RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2DIWYGIADAU AMRYWIOL MEWN PERTHYNAS Â GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL, GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL A SWYDDOGAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL
Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol
21Lletya plant
(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn diwygio Deddf 2014 er mwyn cyfyngu’r canlynol—
(a)gallu person a enwir mewn gorchymyn trefniadau plentyn i atal rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sydd heb rieni, neu sydd ar goll neu sydd wedi ei adael, rhag gwrthwynebu i’r plentyn dderbyn gofal mewn llety awdurdod lleol, neu rhag ei symud o lety o’r fath;
(b)y gofyniad i awdurdod lleol leoli plentyn y mae’n gofalu amdano gyda pherson a enwir mewn gorchymyn trefniadau plentyn,
i berson a enwir yn y gorchymyn trefniadau plentyn fel rhywun y mae’r plentyn i fyw gydag ef, ond nid i unrhyw berson arall a enwir mewn gorchymyn o’r fath.
(2)Yn adran 76(6) o Ddeddf 2014, yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)sydd wedi ei enwi mewn gorchymyn trefniadau plentyn (sydd mewn grym) fel person y mae’r plentyn i fyw gydag ef,”.
(3)Yn adran 81(3) o Ddeddf 2014, ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “yn berson” hyd at y diwedd rhodder “wedi ei enwi yn y gorchymyn trefniadau plentyn fel person yr oedd y plentyn i fyw gydag ef”.