ID badges: Hide | Show

RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2DIWYGIADAU AMRYWIOL MEWN PERTHYNAS Â GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL, GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL A SWYDDOGAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL

Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol

21Lletya plant

section 21 1 (1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn diwygio Deddf 2014 er mwyn cyfyngu’r canlynol—

section 21 1 a (a)gallu person a enwir mewn gorchymyn trefniadau plentyn i atal rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sydd heb rieni, neu sydd ar goll neu sydd wedi ei adael, rhag gwrthwynebu i’r plentyn dderbyn gofal mewn llety awdurdod lleol, neu rhag ei symud o lety o’r fath;

section 21 1 b (b)y gofyniad i awdurdod lleol leoli plentyn y mae’n gofalu amdano gyda pherson a enwir mewn gorchymyn trefniadau plentyn,

i berson a enwir yn y gorchymyn trefniadau plentyn fel rhywun y mae’r plentyn i fyw gydag ef, ond nid i unrhyw berson arall a enwir mewn gorchymyn o’r fath.

section 21 2 (2)Yn adran 76(6) o Ddeddf 2014, yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)sydd wedi ei enwi mewn gorchymyn trefniadau plentyn (sydd mewn grym) fel person y mae’r plentyn i fyw gydag ef,.

section 21 3 (3)Yn adran 81(3) o Ddeddf 2014, ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “yn berson” hyd at y diwedd rhodder “wedi ei enwi yn y gorchymyn trefniadau plentyn fel person yr oedd y plentyn i fyw gydag ef”.