ID badges: Hide | Show

RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2DIWYGIADAU AMRYWIOL MEWN PERTHYNAS Â GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL, GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL A SWYDDOGAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL

Gweithwyr gofal cymdeithasol: cofrestru ac addasrwydd i ymarfer

19Achosion addasrwydd i ymarfer: pwerau i estyn gorchmynion interim

(1)Mae is-adran (2) yn diwygio Deddf 2016 i roi’r pŵer i banel sy’n gwrando ar achos gorchymyn interim i estyn gorchymyn interi‍m.

(2)Yn adran 147 o Ddeddf 2016—

(a)yn is-adran (1), ar ôl paragraff (e) mewnosoder— ;

(f)yn achos gorchymyn interim nad yw wedi cael ei estyn gan y tribiwnlys o dan adran 148, estyn y gorchymyn interim.;

(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Ni chaiff panel wneud penderfyniad a bennir yn is-adran (1)(f) ond—

(a)os yw’r panel wedi ei fodloni bod y penderfyniad yn bodloni un neu ragor o’r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2), a

(b)os nad yw’r estyniad yn arwain at y gorchymyn interim yn cael effaith am gyfnod o fwy na 18 mis.;

(c)yn is-adran (3), ar ôl “estyn” mewnosoder “gan banel o dan is-adran (1)(f) neu gan y tribiwnlys”;

(d)yn is-adran (4), ar ôl paragraff (a)(i) mewnosoder—

(ia)gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan banel;;

(e)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5)Ond nid yw is-adran (4)(a)(i) a (b)(i) yn gymwys mewn perthynas â’r cyfeiriad at orchymyn interim yn is-adran (1)(f).