RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2DIWYGIADAU AMRYWIOL MEWN PERTHYNAS Â GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL, GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL A SWYDDOGAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL
Gweithwyr gofal cymdeithasol: cofrestru ac addasrwydd i ymarfer
19Achosion addasrwydd i ymarfer: pwerau i estyn gorchmynion interim
section 19 1 (1)Mae is-adran (2) yn diwygio Deddf 2016 i roi’r pŵer i banel sy’n gwrando ar achos gorchymyn interim i estyn gorchymyn interim.
section 19 2 (2)Yn adran 147 o Ddeddf 2016—
section 19 2 a (a)yn is-adran (1), ar ôl paragraff (e) mewnosoder— “;
(f)yn achos gorchymyn interim nad yw wedi cael ei estyn gan y tribiwnlys o dan adran 148, estyn y gorchymyn interim.”;
section 19 2 b (b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Ni chaiff panel wneud penderfyniad a bennir yn is-adran (1)(f) ond—
(a)os yw’r panel wedi ei fodloni bod y penderfyniad yn bodloni un neu ragor o’r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2), a
(b)os nad yw’r estyniad yn arwain at y gorchymyn interim yn cael effaith am gyfnod o fwy na 18 mis.”;
section 19 2 c (c)yn is-adran (3), ar ôl “estyn” mewnosoder “gan banel o dan is-adran (1)(f) neu gan y tribiwnlys”;
section 19 2 d (d)yn is-adran (4), ar ôl paragraff (a)(i) mewnosoder—
“(ia)gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan banel;”;
section 19 2 e (e)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(5)Ond nid yw is-adran (4)(a)(i) a (b)(i) yn gymwys mewn perthynas â’r cyfeiriad at orchymyn interim yn is-adran (1)(f).”