RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2DIWYGIADAU AMRYWIOL MEWN PERTHYNAS Â GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL, GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL A SWYDDOGAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL
Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol: cofrestru etc. darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol
16Canslo ac amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth heb gais: y gweithdrefnau hysbysu
(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn diwygio Deddf 2016 i gymhwyso’r weithdrefn hysbysiad o gynnig (gweler adran 18 o’r Ddeddf honno), yn hytrach na’r weithdrefn hysbysiad gwella (gweler adran 16 o’r Ddeddf honno), wrth amrywio neu ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth gan Weinidogion Cymru o dan amgylchiadau penodol pan na fo unrhyw welliant yn bosibl.
(2)Yn adran 13 o Ddeddf 2016—
(a)hepgorer is-adran (2);
(b)yn is-adran (4), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)bod yr unigolyn cyfrifol sydd wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â’r man hwnnw, neu unrhyw berson arall, wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth yn y man hwnnw, ohono neu mewn perthynas ag ef,”;
(c)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(4A)At ddibenion is-adran (4)(ba) mae trosedd berthnasol yn drosedd a restrir yn adran 15(2).”
(d)yn is-adran (5), yn lle’r geiriau o “is-adran (3)” hyd at y diwedd rhodder “yr adran hon—
(a)yn achos amrywiad o dan is-adran (1), (3)(a) neu (4)(a), oni bai bod gofynion adrannau 18 a 19 wedi eu bodloni;
(b)yn achos amrywiad o dan is-adran (3)(b), (4)(b), (ba) neu (c), oni bai bod gofynion adrannau 16 a 17 wedi eu bodloni.”;
(e)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(6)Ond nid oes dim byd yn is-adran (5) sy’n effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i amrywio cofrestriad ar frys o dan adran 23.”
(3)Yn adran 15 o Ddeddf 2016—
(a)yn is-adran (1)—
(i)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig y mae’n ei ddarparu;”;
(ii)ym mharagraff (d), yn lle “mae’r darparwr gwasanaeth neu unigolyn cyfrifol” rhodder “mae unigolyn cyfrifol ac eithrio’r darparwr gwasanaeth (gweler adran 21(2)(a))”;
(b)yn is-adran (2), yn lle “is-adran (1)(d)” rhodder “is-adran (1)(ba), (d)”;
(c)yn is-adran (3), yn lle’r geiriau o “oni bai” hyd at y diwedd rhodder “—
(a)yn achos canslo ar y seiliau a nodir yn is-adran (1)(a), (b) neu (ba), oni bai bod gofynion adrannau 18 a 19 wedi eu bodloni;
(b)yn achos canslo ar y seiliau a nodir yn is-adran (1)(c), (d), (e) neu (f), oni bai bod gofynion adrannau 16 a 17 wedi eu bodloni.”;
(d)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
“(4)Ond nid oes dim byd yn is-adran (3) sy’n effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i ganslo cofrestriad ar frys o dan adran 23.”