ID badges: Hide | Show

RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2DIWYGIADAU AMRYWIOL MEWN PERTHYNAS Â GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL, GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL A SWYDDOGAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL

Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol: cofrestru etc. darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol

15Cais i ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth: yr wybodaeth sydd i’w darparu

(1)Mae is-adran (2) yn diwygio Deddf 2016 i roi pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi’r wybodaeth sydd i’w darparu gyda chais y mae darparwr gwasanaeth yn ei wneud i ganslo cofrestriad y darparwr o dan y Ddeddf.

(2)Yn adran 14 o Ddeddf 2016, ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Rhaid i gais o dan is-adran (1)—

(a)cynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir gan Weinidogion Cymru;

(b)bod ar y ffurf ragnodedig.