RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW
Swyddogaethau awdurdod lleol mewn cysylltiad â llety ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
11Dyletswydd i lunio a chyhoeddi cynllun digonolrwydd blynyddol
Yn Neddf 2014, ar ôl adran 75 mewnosoder—
“75ADyletswydd i sicrhau llety: llunio a chyhoeddi cynllun digonolrwydd blynyddol
(1)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol rhaid i awdurdod lleol lunio a chyhoeddi cynllun (“cynllun digonolrwydd blynyddol”) sy’n nodi’r camau y bydd yn eu cymryd yn y flwyddyn honno yn unol â’i ddyletswydd o dan adran 75(1).
(2)Rhaid i gynllun digonolrwydd blynyddol—
(a)bod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau, a
(b)cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru cyn ei gyhoeddi (gweler adrannau 75B a 75C).
(3)Rhaid i gynllun digonolrwydd blynyddol gynnwys, mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi—
(a)nifer y plant y mae’r awdurdod yn amcangyfrif—
(i)y bydd yn gofalu amdanynt, a
(ii)y bydd yn annhebygol o allu gwneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy o dan adran 81(2);
(b)asesiad ynghylch faint o lety a ddarperir gan rieni maeth awdurdod lleol a chartrefi plant fydd ar gael i’r awdurdod lleol at ddiben lleoli plant a ddisgrifir ym mharagraff (a) yn unol ag adran 81A(2);
(c)asesiad ynghylch i ba raddau y mae’r llety hwnnw yn bodloni gofynion paragraffau (a) i (b) o adran 75(1);
(d)mewn perthynas â cheisiadau y mae’r awdurdod lleol yn rhagweld y bydd yn eu gwneud i gymeradwyo lleoliadau atodol yn unol ag adran 81B—
(i)amcangyfrif o nifer y ceisiadau a ddisgwylir,
(ii)y rhesymau pam y mae’r nifer hwnnw o geisiadau yn debygol o gael ei wneud,
(iii)gwybodaeth i’w rhagnodi mewn rheoliadau ynghylch darparwyr er elw sy’n darparu llety yng Nghymru ac sy’n debygol o gael eu henwi yn y ceisiadau hynny, a
(iv)gwybodaeth i’w rhagnodi mewn rheoliadau ynghylch darparwyr preifat sy’n darparu llety yn Lloegr ac sy’n debygol o gael eu henwi yn y ceisiadau hynny;
(e)gwybodaeth ynghylch sut y bwriedir i gamau sydd i’w cymryd gan yr awdurdod lleol sicrhau bod gan yr awdurdod ddigon o lety sy’n bodloni gofynion paragraffau (a) i (b) o adran 75(1);
(f)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir drwy reoliadau.
(4)At ddibenion is-adran (3)(d)(iii) ac adran 81B, ystyr “darparwr er elw” yw—
(a)mewn perthynas â llety a ddarperir gan rieni maeth awdurdod lleol, darparwr gwasanaeth nad yw’n dod o fewn y disgrifiadau a roddir yn adran 81A(4)(a);
(b)mewn perthynas â llety a ddarperir gan gartref plant, darparwr gwasanaeth nad yw’n dod o fewn y disgrifiadau a roddir yn adran 81A(4)(b).
(5)At ddibenion is-adran (3)(d)(iv) ac adran 81B, ystyr “darparwyr preifat” yw—
(a)mewn perthynas â llety a ddarperir gan rieni maeth awdurdod lleol, person yn Lloegr sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag asiantaeth faethu o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
(b)mewn perthynas â llety a ddarperir gan gartref plant, person, ac eithrio awdurdod lleol, sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r cartref plant o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
(6)Yn yr adran hon ac yn adran 81A, mae i “darparwr gwasanaeth” yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(c) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
75BDyletswydd i sicrhau llety: y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo cynllun digonolrwydd
(1)Cyn cyhoeddi ei gynllun digonolrwydd blynyddol, rhaid i awdurdod lleol—
(a)llunio drafft o’r cynllun, a
(b)cyflwyno’r drafft i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ganddynt.
(2)Rhaid cyflwyno’r cynllun drafft cyntaf i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 4 mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.
(3)Rhaid cyflwyno cynlluniau drafft dilynol i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 2 fis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.
(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft o gynllun digonolrwydd blynyddol, rhaid iddynt hysbysu’r awdurdod lleol am eu penderfyniad.
75CDyletswydd i sicrhau llety: y weithdrefn os nad yw’r cynllun drafft yn cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o gynllun digonolrwydd blynyddol a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan adran 75B.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod lleol gan nodi—
(a)y rhesymau dros y penderfyniad;
(b)y cyfnod y mae rhaid i’r awdurdod lleol, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, gyflwyno drafft pellach o’r cynllun i Weinidogion Cymru.
(3)Rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno drafft pellach o’r cynllun ynghyd ag adroddiad sy’n esbonio sut, wrth lunio’r drafft, y mae’r awdurdod lleol wedi ystyried y rhesymau a nodir yn yr hysbysiad a roddir o dan is-adran (2).
(4)Mae adran 75B(4) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft pellach a gyflwynir iddynt o dan yr adran hon fel y mae’n gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 75B.
(5)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft pellach a gyflwynir iddynt o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 75B.”