Offerynnau Statudol Cymru
2025 No. 516 (Cy. 92)
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid
Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed
24 Ebrill 2025
Yn dod i rym
8 Mai 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1) a 25 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
(1)
1981 p. 22. Mae swyddogaethau “the Ministers” o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y’u diffinnir yn adran 86(1) o’r Ddeddf honno) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru) yn rhinwedd Gorchmynion Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a 2004 (O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044) ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.