NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024 (O.S. 2024/753 (Cy. 105)) (“Gorchymyn 2024”).
Mae erthygl 2(2) yn diwygio dyddiad dod i rym erthyglau 35 i 41 o Orchymyn 2024 o 1 Gorffennaf 2025 i 1 Gorffennaf 2026.
Mae erthygl 2(3) yn rhoi’r geiriau “o dan gyfarwyddyd” yn lle “o dan oruchwyliaeth” yng Ngorchymyn 2024 drwyddo draw i’w gwneud yn glir nad oes angen i filfeddyg fod yn bresennol yn y cnawd o reidrwydd pan fydd person yn cymryd sampl.
Mae erthygl 2(4) yn estyn y cyfnod profi cyn symud, pan fo anifail i’w symud oddi ar ddaliad, o 30 o ddiwrnodau i 60 o ddiwrnodau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.