ID badges: Hide | Show

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf yr Amgylchedd 2021 (p. 30) (“y Ddeddf”). Y rhain yw’r trydydd rheoliadau cychwyn sydd wedi eu gwneud o dan y Ddeddf.

Mae rheoliad 2 yn dwyn i rym Ran 2 o Atodlen 12 ac adran 73(d), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Ddeddf, ar 16 Ebrill 2025.

Mae adran 73(d) yn deddfu Rhan 2 o Atodlen 12 i’r Ddeddf sy’n gwneud diwygiadau i Ddeddf Aer Glân 1993 (p. 11). Mae Rhan 2 o Atodlen 12 yn diwygio, o ran Cymru, y weithdrefn ar gyfer datgan tanwydd i’w awdurdodi neu le tân i’w esemptio at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Aer Glân 1993, drwy alluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi rhestr o’r tanwyddau a’r lleoedd tân hyn, ac i ddiweddaru’r rhestrau hyn yn ôl yr angen.