NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ar 11 Ebrill 2025 ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008(p. 4) (“y Ddeddf”) mewn perthynas â mangreoedd GIG Cymru.
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau o’r Ddeddf sy’n angenrheidiol i alluogi’r awdurdod cenedlaethol priodol i lunio a chyhoeddi canllawiau i gyrff perthnasol y GIG a swyddogion awdurdodedig ynghylch y pwerau i symud person sydd o dan amheuaeth resymol o achosi niwsans neu aflonyddwch ar fangreoedd y GIG. Ystyr yr awdurdod cenedlaethol priodol mewn perthynas ag un o gyrff perthnasol GIG Cymru a swyddogion awdurdodedig, o ran mangreoedd GIG Cymru, yw Gweinidogion Cymru.