ID badges: Hide | Show

Mynediad at y gronfa ddata PCA

regulation 12 12.—(1Dim ond person sydd wedi ei gyflogi gan awdurdod lleol peilot, neu sy’n gweithredu ar ran awdurdod o’r fath, mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau a bennir ym mharagraff (2) a gaiff gael mynediad at y gronfa ddata PCA at ddiben ychwanegu neu ddarllen gwybodaeth.

(2Y swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw swyddogaethau o dan—

regulation 12 2 a (a)Rhan 6 (derbyniadau ysgol, presenoldeb yn yr ysgol a ffioedd ysgol) o Ddeddf 1996,

regulation 12 2 b (b)adran 175 o Ddeddf Addysg 2002(1) (dyletswyddau awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu mewn perthynas â lles plant), neu

regulation 12 2 c (c)Rhan 2 (anghenion dysgu ychwanegol) o Ddeddf 2018.

(1)

2002 p. 32, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.