NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydlu a gweithredu cronfa ddata plant sy’n colli addysg (“PCA”) yng Nghymru.
Bydd yn ofynnol i awdurdod lleol peilot (fel y’i diffinnir yn rheoliad 2(1) ac Atodlen 1) sefydlu a gweithredu cronfa ddata PCA (rheoliad 3) a fydd yn cynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau mewn cysylltiad â phlant o oedran ysgol gorfodol sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol peilot.
Bydd yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol a chontractwr gwasanaethau meddygol cyffredinol yng Nghymru ddatgelu i awdurdod lleol peilot wybodaeth benodol a bennir yn Atodlen 2 ac a ddelir ganddynt (rheoliad 4). Rhaid i awdurdod lleol peilot gymryd camau rhesymol i sicrhau bod yr wybodaeth yn y gronfa ddata yn gywir (rheoliad 5).
Mae rheoliadau 6 i 11 yn manylu ar yr achlysuron pan fydd rhaid dileu enw plentyn o gronfa ddata PCA.
Mae rheoliad 12 yn manylu ar bwy y caniateir iddo gael mynediad at y gronfa ddata ac ar gyfer pa swyddogaethau addysg y caniateir ei defnyddio.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Tegwch mewn Addysg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.