ID badges: Hide | Show

Offerynnau Statudol Cymru

2025 Rhif 440 (Cy. 85)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025

Gwnaed

3 Ebrill 2025

Yn dod i rym

8 Ebrill 2025

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 29(1)(a), (5) a 66(1)(b) o Ddeddf Plant 2004(1), a chyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae drafft o’r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 66(3) o Ddeddf Plant 2004(3).

(1)

2004 p. 31. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Gweler adran 65(1) o Ddeddf Plant 2004 am y diffiniad o “the Assembly”.

(2)

Gweler adran 29(12) o Ddeddf Plant 2004.

(3)

Mae paragraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p. 32 (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2007/1388) yn darparu bod y cyfeiriad at ddau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig yn adran 66(3) o Ddeddf Plant 2004 i’w ddarllen fel cyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru bellach).