NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“Deddf 2022”) yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn creu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Comisiwn”).
Mae paragraff 29 o Atodlen 4 i Ddeddf 2022 yn diwygio Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) mewn perthynas ag ad-drefnu ysgolion. Mae’r diwygiadau hynny yn cynnwys dileu pwerau Gweinidogion Cymru i wneud cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, gan roi’r pwerau yn lle hynny i’r Comisiwn i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth er mwyn adlewyrchu’r diwygiadau hynny a wnaed i Ddeddf 2013 gan Ddeddf 2022.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.