ID badges: Hide | Show

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“y Ddeddf”) ac yn gwneud darpariaeth ddarfodol a throsiannol mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaethau penodol i rym.

Mae Rhan 1 (erthygl 1) yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag enwi a dehongli’r Gorchymyn hwn.

Mae Rhan 2 (erthyglau 2 i 8) yn dwyn i rym ddarpariaethau o’r Ddeddf ar 5 Ebrill 2025. Mae erthygl 2 yn dwyn darpariaethau penodol i rym yn llawn ac mae erthygl 3 yn dwyn eraill i rym at ddibenion penodedig. Mae erthyglau 4 a 5 yn dwyn darpariaethau i rym yn llawn yn ddarostyngedig i addasiadau dros dro ac mae erthyglau 6 a 7 yn dwyn darpariaethau i rym yn llawn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol. Mae erthygl 8 yn dwyn darpariaethau i rym at ddibenion penodedig yn ddarostyngedig i addasiadau dros dro.

Mae Rhan 3 (erthyglau 9 a 10) yn dwyn darpariaethau o’r Ddeddf i rym yn llawn ar 1 Ionawr 2026 a 31Gorffennaf 2026. Mae erthygl 10 yn dwyn i rym adran 25(1) a (4) o’r Ddeddf ar 31 Gorffennaf 2026, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym. Mae adran 25(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn sefydlu a chynnal cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru.

Mae erthygl 2(a) yn dwyn i rym is-adrannau (2), (3), (5), (6) ac (8) i (11) o adran 25 o’r Ddeddf, y mae rhai ohonynt eisoes mewn grym at ddibenion penodol. Mae erthygl 9 yn dwyn i rym adran 26 o’r Ddeddf, sy’n ymwneud â’r weithdrefn gofrestru, ar 1 Ionawr 2026. Mae erthygl 2(b) i (f) yn dwyn i rym adrannau 27 i 31 o’r Ddeddf, y mae rhai ohonynt eisoes mewn grym at ddibenion penodol.

I gofrestru gyda’r Comisiwn rhaid i geisydd (ymhlith pethau eraill) fod yn ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru (adran 25(4)(b) o’r Ddeddf). Diffinnir hyn yn adran 144(1) o’r Ddeddf fel sefydliad sy’n darparu addysg drydyddol, gan gynnwys addysg drydyddol a ddarperir ar ei ran, y cynhelir ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru. Mae adran 83 o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddynodi darparwr addysg drydyddol yn sefydliad na fyddai, oni bai am y dynodiad, yn cael ei ystyried yn sefydliad at ddibenion y Ddeddf. Dygir adran 83 i rym i’r graddau nad yw eisoes mewn grym gan erthygl 2(ee).

Rhaid i geiswyr ar gyfer cofrestru fodloni amodau cofrestru cychwynnol (adran 27 o’r Ddeddf) ac mae cofrestriad parhaus darparwr yn amodol arno’n bodloni amodau cofrestru parhaus cyffredinol ac unrhyw amodau cofrestru parhaus penodol (adrannau 28 a 29 o’r Ddeddf). Mae rhwymedigaeth ar y Comisiwn i gadw amodau o’r fath o dan adolygiad (adran 30(2) o’r Ddeddf). Mae adran 31 o’r Ddeddf yn nodi amodau cofrestru parhaus mandadol sydd i’w gosod fel naill ai amodau cofrestru parhaus cyffredinol neu amodau cofrestru parhaus penodol.

Mae erthygl 2(g) yn dwyn i rym adran 32 o’r Ddeddf i’r graddau nad yw eisoes mewn grym. O dan adran 32, rhaid i ddarparwyr cofrestredig penodol fod yn ddarostyngedig i amod terfyn ffioedd. Rhaid i’r darparwyr hyn feddu ar ddatganiad terfyn ffioedd sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 47 o’r Ddeddf ac mae erthygl 2(s) yn dwyn yr adran honno i rym i’r graddau nad yw eisoes mewn grym. Mae erthygl 2(t) yn dwyn i rym adran 48 o’r Ddeddf, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddatganiadau terfyn ffioedd cymeradwy gael eu cyhoeddi.

Mae adran 33 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr cofrestredig fod yn ddarostyngedig i amodau cofrestru parhaus ar gyfle cyfartal. Mae adran 33 mewn grym at ddibenion penodedig ac mae erthygl 3(a) yn dwyn yr adran honno i rym at ddibenion ychwanegol.

Mae erthygl 2(h) yn dwyn i rym adran 35 o’r Ddeddf i’r graddau nad yw eisoes mewn grym. Mae’r adran honno’n ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gyhoeddi canllawiau ynghylch amodau cofrestru parhaus.

Mae erthygl 2(i) i (l) yn dwyn i rym adrannau 36 i 39 o’r Ddeddf. Mae adrannau 36 i 38 yn darparu i’r Comisiwn fonitro, darparu cyngor a chynhorthwy a chynnal adolygiadau mewn perthynas â chydymffurfedd darparwyr cofrestredig ag amodau cofrestru parhaus. O dan adran 39, caiff y Comisiwn gyfarwyddo darparwr mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau o’r fath. Mae adran 40 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfarwyddydau a roddir o dan adran 39 ac fe’i dygir i rym gan erthygl 2(m). Mae erthygl 2(dd) yn dwyn i rym adran 82 o’r Ddeddf, sy’n darparu ar gyfer effaith cyfarwyddydau a roddir o dan Ran 2 o’r Ddeddf, a gorfodi cyfarwyddydau o’r fath.

Mae adran 41 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ddileu darparwr addysg drydyddol o gategori o’r gofrestr o dan amgylchiadau penodol, ac yn ei alluogi i wneud hynny. Mae erthygl 2(n) yn dwyn i rym adran 41 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym. Mae erthygl 2(o) a (p) yn dwyn i rym adrannau 42 a 43 o’r Ddeddf, yn y drefn honno, sy’n nodi’r weithdrefn ddatgofrestru ac yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â datgofrestru’n wirfoddol a datgofrestru gyda chydsyniad. Mae erthygl 2(q) yn dwyn i rym adran 44 o’r Ddeddf, sy’n galluogi’r Comisiwn i gofrestru darparwr mewn categori gwahanol o’r gofrestr os bodlonir amodau penodol.

Mae erthygl 2(r) yn dwyn i rym adran 45 o’r Ddeddf. Mae adran 45 yn galluogi darparwr i wneud cais am adolygiad gan yr adolygydd penderfyniadau (gweler adran 79 o’r Ddeddf) o benderfyniadau penodol gan y Comisiwn sy’n gysylltiedig â chofrestru.

Mae erthygl 8(1) yn dwyn i rym swyddogaethau ymyrryd y Comisiwn yn adrannau 51 i 53 o’r Ddeddf at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd, yn unol ag adran 81(1) o’r Ddeddf. Mae erthygl 8(5)(a) yn darparu ar gyfer addasiad dros dro i ddyletswydd y Comisiwn yn adran 51(b) i fonitro ansawdd addysg drydyddol ac i hybu gwelliant yn ansawdd yr addysg honno, fel nad yw’r ddyletswydd yn cynnwys addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn yn unol â’i bwerau o dan adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“Deddf 1992”). Bydd yr addasiad hwn yn gymwys hyd nes y diddymir adran 65 o Ddeddf 1992 (erthygl 8(3)).

Mae erthygl 8(5)(b) hefyd yn darparu ar gyfer addasiad dros dro i ddyletswydd y Comisiwn yn adran 51(b) o’r Ddeddf fel nad yw’n cynnwys addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, sefydliad rheoleiddiedig nad yw’n ddarparwr cofrestredig. Bydd yr addasiad hwn yn gymwys hyd nes y diddymir Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) yn llawn (erthygl 8(4)). Diffinnir y termau “sefydliad rheoleiddiedig” a “darparwr cofrestredig” yn erthygl 1(2).

Mae erthygl 8(6) yn darparu ar gyfer addasiadau dros dro i adrannau 52(1)(b) ac (c) a 53(b) ac (c) o’r Ddeddf. Mae’r addasiadau hynny yn eithrio addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, sefydliadau rheoleiddiedig nad ydynt yn ddarparwyr cofrestredig rhag cwmpas pwerau’r Comisiwn i ddarparu cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad ag ansawdd addysg drydyddol a’i bwerau i gynnal adolygiadau sy’n berthnasol i ansawdd addysg drydyddol. Cymhwysir yr addasiadau oherwydd bydd sefydliadau rheoleiddiedig nad ydynt yn ddarparwyr cofrestredig yn parhau i gael eu rheoleiddio at ddibenion ansawdd o dan Ddeddf 2015. Bydd yr addasiadau yn gymwys hyd nes y diddymir Deddf 2015 yn llawn (erthygl 8(4)).

Mae adran 54 o’r Ddeddf yn rhoi swyddogaethau i’r Comisiwn sy’n ymwneud ag asesu addysg uwch a ddarperir gan, neu ar ran, ddarparwyr cofrestredig ac a ddarperir gan eraill. Mae adran 56 o’r Ddeddf, ac Atodlen 3 iddi, yn galluogi’r Comisiwn i ddynodi corff i arfer y swyddogaethau hynny ar ei ran.

Mae erthygl 8(2) yn dwyn i rym adran 54 o’r Ddeddf at ddibenion galluogi’r Comisiwn i ddynodi corff o dan Atodlen 3. Mae erthygl 8(7) yn gwneud addasiadau dros dro i adran 54(3) fel ei bod yn cael effaith fel pe na bai pŵer asesu’r Comisiwn yn cynnwys addysg uwch a ddarperir yng Nghymru gan, neu ar ran, sefydliad rheoleiddiedig nad yw’n ddarparwr cofrestredig. Bydd addysg uwch o’r fath yn parhau i gael ei rheoleiddio at ddibenion ansawdd o dan Ddeddf 2015. Bydd yr addasiadau yn gymwys hyd nes y diddymir Deddf 2015 yn llawn (erthygl 8(4)).

Mae erthyglau 2(u) a 5 yn dwyn i rym adran 56 o’r Ddeddf, a Rhan 1 o Atodlen 3 iddi, yn y drefn honno. Mae erthygl 5(2) i (4) yn addasu paragraffau 1 i 3 o Atodlen 3 fel bod cyfeiriadau at ddarparwr (neu ddarparwyr) cofrestredig sy’n darparu addysg uwch yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at sefydliad (neu sefydliadau) rheoleiddiedig. Yn ystod y cyfnod pan fydd yr addasiadau hyn yn gymwys, ni fydd darparwyr cofrestredig.

Mae Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf yn darparu ar gyfer goruchwyliaeth o’r corff dynodedig gan y Comisiwn. Mae erthygl 3(c) yn dwyn i rym baragraff 6 o Atodlen 3 at ddibenion galluogi’r Comisiwn i baratoi trefniadau o dan y paragraff hwnnw.

Mae erthygl 2(v) yn dwyn i rym adran 73 o’r Ddeddf, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu penodol gydweithredu â’r Comisiwn neu â phersonau sy’n arfer ei swyddogaethau yn adrannau 51, 53 a 54(1) o’r Ddeddf (gan gynnwys at ddiben arfer unrhyw bŵer o dan adran 74 o’r Ddeddf). Mae adran 74 yn darparu i bersonau gael eu hawdurdodi gan y Comisiwn at ddibenion mynd i mewn ac arolygu mewn perthynas â swyddogaethau penodol o blith swyddogaethau ymyrryd y Comisiwn a swyddogaethau’r Comisiwn o dan adran 54(1) o’r Ddeddf. Dygir adran 74 o’r Ddeddf i rym gan erthygl 2(w).

Mae erthygl 2(x) i (bb) yn dwyn i rym adrannau 75 i 79 o’r Ddeddf. Mae adrannau 76 i 78 yn gymwys i hysbysiadau a chyfarwyddydau sy’n dod o fewn adran 75. O dan adran 76, rhaid i’r Comisiwn roi hysbysiad rhybuddio i ddarparwr cyn rhoi hysbysiad neu gyfarwyddyd o’r fath i’r darparwr. Mae adran 77 yn rhagnodi’r wybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau neu gyfarwyddydau sy’n dod o fewn adran 75 a’u heffaith tra bo adolygiad yn yr arfaeth. O dan adran 78, caiff darparwr sy’n cael hysbysiad neu gyfarwyddyd o’r fath wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd hwnnw. Mae adran 79 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benodi person neu banel o bersonau i adolygu penderfyniadau o dan adrannau 45 a 78 ac mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn cysylltiad ag adolygiadau o’r fath.

Mae erthygl 2(cc) yn dwyn i rym adran 81(1), (2), (3)(b) a (4) o’r Ddeddf, sy’n ymwneud â datganiad y Comisiwn ar swyddogaethau ymyrryd. Mae adran 81(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd yn adrannau 36 i 39, 41, 51 i 53 a 73(4) o’r Ddeddf. Cyn cyhoeddi’r datganiad, neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â’r personau a nodir yn adran 81(3). Mae erthygl 4 yn dwyn i rym adran 81(3)(a) yn ddarostyngedig i addasiad dros dro, sef bod rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â phob sefydliad rheoleiddiedig (yn lle pob darparwr cofrestredig). Cymhwysir yr addasiad hwn tan 31 Gorffennaf 2026 gan na fydd darparwyr cofrestredig tan hynny.

Mae erthygl 2(ff) yn dwyn i rym adran 84 o’r Ddeddf i’r graddau nad yw eisoes mewn grym. Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer dehongli Rhan 2 o’r Ddeddf.

Mae adran 87(1) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad o’i bolisi ar sut y mae’n bwriadu arfer ei bwerau cyllido. Mae erthygl 2(gg) yn dwyn i rym adran 87(1), (3) a (4) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym. Mae erthygl 3(b) yn dwyn i rym adran 87(5), i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, ac eithrio mewn perthynas ag adrannau 88, 89 a 105 o’r Ddeddf.

Mae erthygl 2(ii) a (jj) yn dwyn i rym adrannau 126 a 129 o’r Ddeddf, yn y drefn honno, sy’n darparu ar gyfer cynlluniau diogelu dysgwyr ac sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gyhoeddi cod ymgysylltu â dysgwyr. Mae adran 101(3) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir sydd â chweched dosbarth yng Nghymru gydymffurfio â gofynion y cod ymgysylltu â dysgwyr, a chaiff yr adran ei dwyn i rym gan erthygl 2(hh) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym. Mae erthygl 2(kk) yn dwyn i rym baragraff 16(1)(g) ac (h) o Atodlen 1 i’r Ddeddf, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd cynlluniau diogelu dysgwyr a’r cod ymgysylltu â dysgwyr yn ei adroddiad blynyddol.

Mae erthygl 2(ll) yn dwyn i rym baragraffau 8(8), 11 a 29(1) i (4), (6) i (8) a (10) i (13) o Atodlen 4 i’r Ddeddf. Mae paragraff 29 o Atodlen 4 i’r Ddeddf yn darparu ar gyfer gwneud diwygiadau i Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) mewn perthynas ag ad-drefnu ysgolion. Mae’r diwygiadau hyn yn cynnwys dileu pwerau Gweinidogion Cymru i wneud cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth a gynhelir gan awdurdodau lleol, gan roi pwerau yn lle hynny i’r Comisiwn i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth. Mae paragraffau 8(8) ac 11 yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y diwygiadau a wneir gan baragraff 29.

Mae erthygl 6(1) yn dwyn i rym baragraff 29(5) o Atodlen 4 i’r Ddeddf yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol. Mae paragraff 29(5) yn diwygio adran 50(1) o Ddeddf 2013 i ddileu’r gofyniad awtomatig i Weinidogion Cymru gymeradwyo cynigion trefniadaeth ysgolion sy’n effeithio ar addysg chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir, gan ei gwneud yn ofynnol, yn lle hynny, gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru dim ond pan fo gwrthwynebiad i’r cynigion wedi ei anfon, yn ysgrifenedig, at y cynigydd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu (28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod y cyhoeddwyd y cynigion) a phan na fo wedi ei dynnu yn ôl yn ysgrifenedig o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl diwedd y cyfnod gwrthwynebu. Mae’r ddarpariaeth drosiannol a nodir yn erthygl 6(2) yn darparu ei bod yn ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion Cymru o hyd mewn perthynas ag unrhyw gynigion a gyhoeddwyd o dan adran 48 o Ddeddf 2013 cyn 5 Ebrill 2025.

Mae erthygl 7 yn dwyn i rym baragraff 29(9) o Atodlen 4 i’r Ddeddf, sy’n diwygio adran 80(3) o Ddeddf 2013, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol. Mae adran 80 o Ddeddf 2013 yn galluogi corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol i derfynu ysgol drwy gyflwyno i Weinidogion Cymru a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol hysbysiad sy’n rhoi dwy flynedd o rybudd o’i fwriad i wneud hynny. Mae adran 80(3) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn cyflwyno hysbysiad o’r fath os byddai terfynu’r ysgol yn effeithio ar y cyfleusterau ar gyfer addysg chweched dosbarth lawnamser. Mae’r diwygiad a wneir gan baragraff 29(9) o Atodlen 4 yn dileu’r gofyniad i ymgynghori â Gweinidogion Cymru, ac yn ei le mae’n mewnosod gofyniad i ymgynghori â’r Comisiwn cyn cyflwyno hysbysiad o’r fath. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn erthygl 7(2) yn darparu bod y ddyletswydd i ymgynghori â Gweinidogion Cymru yn parhau mewn perthynas ag unrhyw ymgynghoriad a gychwynnwyd o dan adran 80(3) o Ddeddf 2013 cyn 5 Ebrill 2025.

Mae Rhan 4 (erthyglau 11 i 18) yn gwneud darpariaeth ddarfodol a throsiannol mewn cysylltiad â Deddf 2015 a’r system gofrestru sydd i’w sefydlu o dan Ran 2 o’r Ddeddf. Bydd darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n cofrestru gyda’r Comisiwn ac sy’n sefydliadau rheoleiddiedig yn peidio â chael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2015 at ddibenion ansawdd addysg (Rhan 3 o Ddeddf 2015) a materion ariannol (Rhan 4 o Ddeddf 2015) ond byddant yn parhau i gael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2015 at ddibenion ffioedd a chyfle cyfartal mewn cysylltiad â mynediad i addysg uwch hyd nes y diddymir Deddf 2015.

Mae erthygl 11 yn gwneud addasiadau darfodol i adran 1(4) a (5) o Ddeddf 2015, sy’n rhoi trosolwg o Rannau 3 a 4 o’r Ddeddf honno, fel bod sefydliadau rheoleiddiedig sy’n ddarparwyr cofrestredig yn cael eu heithrio o’r cyfeiriadau at sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad.

Mae erthyglau 12 i 18 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas â Deddf 2015.

O dan erthygl 12, nid yw Rhannau 3 a 4 o Ddeddf 2015 a darpariaethau cysylltiedig yn Rhannau 5 a 6 o’r Ddeddf honno yn gymwys mewn perthynas â sefydliad rheoleiddiedig ar ôl iddo ddod yn ddarparwr cofrestredig.

Mae erthygl 13 yn gymwys pan fo’r Comisiwn wedi rhoi i sefydliad rheoleiddiedig hysbysiad rhybuddio o dan adran 42 o Ddeddf 2015 sy’n ymwneud ag ansawdd addysg neu faterion ariannol y sefydliad a phan fo’r sefydliad yn dod yn ddarparwr cofrestredig. Ni chaiff y Comisiwn, er gwaethaf yr hysbysiad rhybuddio, roi cyfarwyddyd na hysbysiad i’r sefydliad hwnnw mewn perthynas ag ansawdd ei addysg na’i faterion ariannol.

Mae erthyglau 14 a 15 yn gymwys i gyfarwyddyd neu hysbysiad, nad yw mewn grym, a roddir gan y Comisiwn o dan Ddeddf 2015 i sefydliad rheoleiddiedig sy’n dod yn ddarparwr cofrestredig. Ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig ddod yn ddarparwr cofrestredig, mae’r cyfarwyddyd neu’r hysbysiad yn cael ei drin fel pe bai wedi ei ddirymu neu ei dynnu’n ôl, yn y drefn honno, os yw’n ymwneud ag ansawdd addysg neu faterion ariannol y sefydliad.

Mae erthygl 16 yn cadarnhau nad yw dim yn Rhan 4 o’r Gorchymyn hwn yn effeithio ar gymhwysiad hysbysiadau penodol a roddir o dan adran 37 neu 39 o Ddeddf 2015 sydd mewn effaith mewn perthynas â sefydliad yn union cyn i’r sefydliad hwnnw ddod yn ddarparwr cofrestredig.

Mae erthygl 17 yn darparu nad yw cyfarwyddyd sydd mewn grym ac sy’n ymwneud ag ansawdd addysg neu faterion ariannol sefydliad rheoleiddiedig yn gymwys ar ôl i’r sefydliad y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo ddod yn ddarparwr cofrestredig.

Mae erthygl 18 yn darparu nad yw datganiad a gyhoeddir gan y Comisiwn o dan adran 52 o Ddeddf 2015 yn gymwys mewn perthynas â sefydliad rheoleiddiedig ar ôl i’r sefydliad hwnnw ddod yn ddarparwr cofrestredig, i’r graddau y mae’r datganiad yn ymwneud ag ansawdd addysg a materion ariannol.