RHAN 2Y DARPARIAETHAU SY’N DOD I RYM AR 5 EBRILL 2025
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Ebrill 2025 i’r graddau a bennir ac yn ddarostyngedig i ddarpariaethau darfodol
article 8 8.—(1) Daw adrannau 51 (dyletswydd i fonitro ansawdd addysg drydyddol reoleiddiedig ac i hybu gwelliant yn ansawdd yr addysg honno) i 53 (adolygiadau sy’n berthnasol i ansawdd addysg drydyddol) o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd, yn unol ag adran 81(1) o’r Ddeddf, yn ddarostyngedig i’r addasiadau ym mharagraffau (5) a (6).
(2) Daw adran 54 (asesu ansawdd addysg uwch) o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 at ddibenion galluogi’r Comisiwn i ddynodi corff o dan Atodlen 3 i’r Ddeddf, yn ddarostyngedig i’r addasiad ym mharagraff (7).
(3) Mae’r addasiad, i’r Ddeddf, sydd wedi ei nodi ym mharagraff (5)(a), yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 5 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 6(3)(c) o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym.
(4) Mae’r addasiadau i’r Ddeddf sydd wedi eu nodi ym mharagraffau (5)(b), (6) a (7) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 5 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(5) Mae adran 51(b) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe na bai’r cyfeiriad at addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo yn cynnwys addysg drydyddol—
article 8 5 a (a)a gyllidir gan y Comisiwn yn unol â’i bwerau yn adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1);
article 8 5 b (b)a ddarperir gan, neu ar ran, sefydliad rheoleiddiedig nad yw’n ddarparwr cofrestredig.
(6) Mae adrannau 52(1)(b) ac (c) (cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad ag ansawdd addysg drydyddol) a 53(b) ac (c) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe na bai’r cyfeiriadau at addysg drydyddol, neu gwrs penodol o addysg drydyddol, yn cynnwys addysg drydyddol, neu gwrs penodol o addysg drydyddol, a ddarperir gan, neu ar ran, sefydliad rheoleiddiedig nad yw’n ddarparwr cofrestredig.
(7) Mae adran 54(3) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe na bai pŵer y Comisiwn i asesu, neu wneud trefniadau ar gyfer asesu, ansawdd addysg uwch a ddarperir yng Nghymru gan unrhyw ddarparwr addysg drydyddol, yn cynnwys addysg uwch a ddarperir yng Nghymru gan, neu ar ran, sefydliad rheoleiddiedig nad yw’n ddarparwr cofrestredig.
(8) Yn yr erthygl hon, mae i “addysg drydyddol” ac “addysg uwch” yr ystyron a roddir gan adran 144(1) o’r Ddeddf.