RHAN 2Y DARPARIAETHAU SY’N DOD I RYM AR 5 EBRILL 2025
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau darfodol
article 4 4.—(1) Daw adran 81(3)(a) o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2), sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 5 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Mae adran 81(3)(a) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at ddarparwr cofrestredig yn gyfeiriad at sefydliad rheoleiddiedig.