RHAN 2Y DARPARIAETHAU SY’N DOD I RYM AR 5 EBRILL 2025
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Ebrill 2025 i’r graddau a bennir
article 3 3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath—
article 3 a (a)adran 33 (amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfle cyfartal), at ddibenion galluogi’r Comisiwn—
article 3 a i (i)i ymgynghori o dan adran 28(7) o’r Ddeddf mewn perthynas ag unrhyw amodau cofrestru parhaus cyffredinol ar gyfle cyfartal;
article 3 a ii (ii)i baratoi ar gyfer amodau cofrestru parhaus ar gyfle cyfartal y gellir eu gosod fel amodau cofrestru parhaus penodol o dan adran 29 o’r Ddeddf;
article 3 b (b)adran 87(5) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, ac eithrio mewn perthynas ag adrannau 88 (cymorth ariannol i ddarparwyr penodedig ar gyfer addysg uwch), 89 (cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau) a 105 (cymorth ariannol ar gyfer ymchwil ac arloesi) o’r Ddeddf;
article 3 c (c)paragraff 6 (goruchwyliaeth gan y Comisiwn) o Atodlen 3 (asesu addysg uwch: corff dynodedig), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i baratoi trefniadau o dan y paragraff hwnnw.