RHAN 4Y DARPARIAETHAU DARFODOL A THROSIANNOL SY’N YMWNEUD Â DEDDF 2015
Hysbysiadau penodol o dan Ddeddf 2015 sydd mewn grym
article 16 16.—(1) Nid yw dim yn y Rhan hon yn effeithio ar gymhwysiad hysbysiad sydd—
article 16 1 a (a)o fewn paragraff (2), a
article 16 1 b (b)mewn effaith mewn perthynas â sefydliad yn union cyn i’r sefydliad hwnnw ddod yn ddarparwr cofrestredig.
(2) Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan—
article 16 2 a (a)adran 37(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 37(3)(d) neu (e) o’r Ddeddf honno;
article 16 2 b (b)adran 39(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 39(2)(c) neu (d) o’r Ddeddf honno.
(3) Mae hysbysiad mewn effaith—
article 16 3 a (a)os yw corff llywodraethu’r sefydliad y mae’r hysbysiad wedi ei gyfeirio ato wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015 ei fod yn derbyn yr hysbysiad,
article 16 3 b (b)os na all y corff hwnnw wneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 oherwydd bod y cyfnod ar gyfer gwneud cais i’r panel adolygu wedi dod i ben, neu
article 16 3 c (c)os yw’r corff hwnnw wedi cael hysbysiad o dan reoliad 10(2) (y weithdrefn ar ôl adolygu) o Reoliadau 2015 fod yr hysbysiad yn cael effaith ar ôl i adolygiad mewn cysylltiad â’r hysbysiad orffen.
(4) Ym mharagraff (1), nid yw hysbysiad a roddir o dan adran 37 o Ddeddf 2015 mewn effaith—
article 16 4 a (a)os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad wedi dod i ben, neu
article 16 4 b (b)os yw’r hysbysiad wedi cael ei dynnu’n ôl o dan adran 37(6) o Ddeddf 2015.