ID badges: Hide | Show

RHAN 4Y DARPARIAETHAU DARFODOL A THROSIANNOL SY’N YMWNEUD Â DEDDF 2015

Hysbysiadau o dan Ddeddf 2015 nad ydynt mewn grym

article 15 15.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i hysbysiad a roddir gan y Comisiwn i sefydliad rheoleiddiedig sy’n dod yn ddarparwr cofrestredig.

(2Ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig ddod yn ddarparwr cofrestredig, mae hysbysiad sydd o fewn paragraff (3) ac y mae paragraff (4) yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl.

(3Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan—

article 15 3 a (a)adran 37(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 37(3)(d) neu (e) o’r Ddeddf honno, neu

article 15 3 b (b)adran 39(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 39(2)(c) neu (d) o’r Ddeddf honno.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i hysbysiad a roddir—

article 15 4 a (a)pan na fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig ei fod yn derbyn yr hysbysiad a phan na fo’r cyfnod ar gyfer gwneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 wedi dod i ben, neu

article 15 4 b (b)pan fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi gwneud cais i’r panel adolygu o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 ac—

article 15 4 b i (i)pan na fo’r adolygiad wedi gorffen, neu

article 15 4 b ii (ii)pan fo’r adolygiad wedi gorffen ond pan na fo’r Comisiwn wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod yr hysbysiad yn cael effaith.

(5Ym mharagraff (4)(a), ystyr hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig yw hysbysu o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015.