RHAN 4Y DARPARIAETHAU DARFODOL A THROSIANNOL SY’N YMWNEUD Â DEDDF 2015
Cyfarwyddydau o dan Ddeddf 2015 nad ydynt mewn grym
article 14 14.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i gyfarwyddyd a roddir gan y Comisiwn i sefydliad rheoleiddiedig sy’n dod yn ddarparwr cofrestredig.
(2) Ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig ddod yn ddarparwr cofrestredig, mae cyfarwyddyd sydd o fewn paragraff (3) ac y mae paragraff (4) yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei ddirymu.
(3) Mae cyfarwyddyd o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan—
article 14 3 a (a)adran 19 o Ddeddf 2015;
article 14 3 b (b)adran 33 o Ddeddf 2015.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gyfarwyddyd a roddir—
article 14 4 a (a)pan na fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig ei fod yn derbyn y cyfarwyddyd a phan na fo’r cyfnod ar gyfer gwneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 (y weithdrefn i wneud cais am adolygiad o hysbysiadau a chyfarwyddydau) o Reoliadau 2015 wedi dod i ben, neu
article 14 4 b (b)pan fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi gwneud cais i’r panel adolygu o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 ac—
article 14 4 b i (i)pan na fo’r adolygiad wedi gorffen, neu
article 14 4 b ii (ii)pan fo’r adolygiad wedi gorffen ond pan na fo’r Comisiwn wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod y cyfarwyddyd yn cael effaith.
(5) Ym mharagraff (4)(a), ystyr hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig yw hysbysu o dan reoliad 4(a) (trin hysbysiadau a chyfarwyddydau) o Reoliadau 2015.