RHAN 4Y DARPARIAETHAU DARFODOL A THROSIANNOL SY’N YMWNEUD Â DEDDF 2015
Datgymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf 2015
article 12 12.—(1) Nid yw’r darpariaethau yn Neddf 2015 o fewn paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â sefydliad rheoleiddiedig ar ôl iddo ddod yn ddarparwr cofrestredig.
(2) Y darpariaethau yw—
article 12 2 a (a)Rhan 3 (ansawdd yr addysg);
article 12 2 b (b)Rhan 4 (materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig);
article 12 2 c (c)adran 37(3)(d) ac (e) (hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd);
article 12 2 d (d)adran 39(2)(c) a (d) (pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôl);
article 12 2 e (e)adran 52(5)(c) i (f) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd);
article 12 2 f (f)adran 52(5)(g) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 37(3)(d) ac (e);
article 12 2 g (g)adran 52(5)(h) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 39(2)(c) a (d).
(3) Ym mharagraff (1), mae sefydliad rheoleiddiedig yn cynnwys sefydliad sy’n cael ei drin fel sefydliad rheoleiddiedig yn rhinwedd adran 26 (cymhwyso’r Rhan hon pan fo sefydliad yn peidio â chael cynllun a gymeradwywyd) o Ddeddf 2015.