ID badges: Hide | Show

RHAN 1CYFLWYNIAD

Enwi a dehongli

article 1 1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2025.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

term y comisiwn ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a sefydlwyd gan adran 1 o’r Ddeddf;

term corff llywodraethu mae i “corff llywodraethu” (“governing body”) yr ystyr a roddir gan adran 57(1) o Ddeddf 2015;

term darparwr cofrestredig mae i “darparwr cofrestredig” (“registered provider”) yr ystyr a roddir gan adran 144(1) o’r Ddeddf;

term deddf 2013 ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(1);

term deddf 2015 ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(2);

term y ddeddf ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022;

term rheoliadau 2015 ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015(3);

term sefydliad rheoleiddiedig mae i “sefydliad rheoleiddiedig” (“regulated institution”) yr ystyr a roddir gan adran 7(5)(b) o Ddeddf 2015.