ID badges: Hide | Show

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p. 22). Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Ar hyn o bryd mae erthygl 16(1) o Orchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006 (“Gorchymyn 2006”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddatgan parth rheolaeth dros dro pan amheuir bod y clwy mewn mangre o dan amheuaeth. Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 16(1) o Orchymyn 2006 i alluogi Gweinidogion Cymru i ddatgan parth rheolaeth dros dro ar sail disgresiwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.