ID badges: Hide | Show

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwnaeth Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 (O.S. 2022/1348 (Cy. 271)) (“Rheoliadau 2022”) ymdrin ag unrhyw fethiant mewn cyfraith a gymathwyd i weithredu’n effeithiol, a chywiro diffygion eraill a ddeilliodd o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, a diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)).

Mae’r Gorchymyn hwn yn cywiro gwall yn Rheoliadau 2022 drwy ddiwygio’r addasiad a wnaed i Gyfarwyddeb 2009/156 i alluogi Gorchmynion a wneir o dan adran 10 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 i bennu’r cyfnod y caniateir anfon Equidae ynddo o diriogaethau yr ystyrir eu bod wedi eu heintio â chlefyd Affricanaidd y ceffylau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.