ID badges: Hide | Show

Offerynnau Statudol Cymru

2025 Rhif 403 (Cy. 81)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Anifeiliaid, Cymru

Gorchymyn y Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2025

Gwnaed

27 Mawrth 2025

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

28 Mawrth 2025

Yn dod i rym

31 Mawrth 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 10(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).

(1)

term deddf 1981 1981 p. 22 (“Deddf 1981”). Diwygiwyd adran 10 gan O.S. 1990/2371 a 1993/1813. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” o dan Ddeddf 1981 (fel y’u diffinnir yn adran 86(1) o’r Ddeddf honno), i’r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban o ran Cymru, i’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd holl swyddogaethau’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd wedi hynny i’r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044). Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.