Offerynnau Statudol Cymru
2025 Rhif 400 (Cy. 80)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2025
Gwnaed
26 Mawrth 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
31 Mawrth 2025
Yn dod i rym
21 Ebrill 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59(1), (2)(b) a (3)(a) a 74(1)(c) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), a thrwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z(8) a (9), 62R a 333(5B) o’r Ddeddf honno(3), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
term deddf 2015 term deddf 1990 1990 p. 8 (“Deddf 1990”). Diwygiwyd adran 59 gan adran 27 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”) a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 4 iddi, ac adran 55 o’r Ddeddf honno a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi, a chan adran 1(2) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) a pharagraffau 1 a 4 o Atodlen 1 iddi. Mae diwygiadau i adran 74 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf 1990 fel y’i hamnewidiwyd gan O.S. 2000/253. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi. Gweler hefyd adran 59(4) o Ddeddf 1990 sy’n darparu mai ystyr gorchymyn datblygu o ran Cymru yw gorchymyn datblygu sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru.
Mewnosodwyd adran 61Z gan adran 17(1) a (2) o Ddeddf 2015. Mewnosodwyd adran 333(5B) gan adran 55 o Ddeddf 2015 a pharagraff 6(5) o Atodlen 7 iddi.