ATODLEN 2Cosbau ariannol penodedig
Cyflwyno hysbysiad terfynol
schedule 2 paragraph 5 5.—(1) Os nad yw’r person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd o fewn 28 o ddiwrnodau, caiff yr awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad terfynol”) i’r person hwnnw, sy’n gosod cosb ariannol benodedig.
(2) Ni chaiff yr awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r awdurdod bwyd wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
(3) Pan fo awdurdod bwyd wedi cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, ni chaiff gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r drosedd.