ID badges: Hide | Show

ATODLEN 2Cosbau ariannol penodedig

Achosion troseddol

schedule 2 paragraph 12 12.—(1Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ar gyfer cosb ariannol benodedig i unrhyw berson—

schedule 2 paragraph 12 1 a (a)ni chaniateir dechrau achos troseddol am y drosedd yn erbyn y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad o fwriad, a

schedule 2 paragraph 12 1 b (b)os yw’r person hwnnw yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno.

(2Os gosodir cosb ariannol benodedig ar unrhyw berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.