Rheoliad 12
ATODLEN 2Cosbau ariannol penodedig
Gosod cosb ariannol benodedig
schedule 2 paragraph 1 1.—(1) Caiff awdurdod bwyd, drwy hysbysiad, osod cosb ariannol benodedig ar berson mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 11.
(2) Cyn gwneud hynny, rhaid i’r awdurdod bwyd fod wedi ei fodloni, y tu hwnt i amheuaeth resymol, fod y person wedi cyflawni’r drosedd.
(3) Swm y gosb i’w thalu i’r awdurdod bwyd fel cosb ariannol benodedig yw £2,500.
Hysbysiad o fwriad
schedule 2 paragraph 2 2.—(1) Pan fo awdurdod bwyd yn cynnig gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”) i’r person hwnnw.
(2) Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
schedule 2 paragraph 2 2 a (a)y seiliau dros y cynnig i osod y gosb ariannol benodedig;
schedule 2 paragraph 2 2 b (b)swm y gosb;
schedule 2 paragraph 2 2 c (c)datganiad y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad;
schedule 2 paragraph 2 2 d (d)gwybodaeth am—
schedule 2 paragraph 2 2 d i (i)effaith y taliad rhyddhau yn is-baragraff (2)(c);
schedule 2 paragraph 2 2 d ii (ii)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;
schedule 2 paragraph 2 2 d iii (iii)o dan ba amgylchiadau na chaiff yr awdurdod bwyd osod y gosb ariannol benodedig (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).
Rhyddhau rhag atebolrwydd
schedule 2 paragraph 3 3. Caiff y gosb ei rhyddhau os yw person sy’n cael hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad.
Cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau
schedule 2 paragraph 4 4.—(1) Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol benodedig.
(2) Ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i’r awdurdod bwyd benderfynu a yw am osod y gosb ariannol benodedig.
Cyflwyno hysbysiad terfynol
schedule 2 paragraph 5 5.—(1) Os nad yw’r person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd o fewn 28 o ddiwrnodau, caiff yr awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad terfynol”) i’r person hwnnw, sy’n gosod cosb ariannol benodedig.
(2) Ni chaiff yr awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r awdurdod bwyd wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
(3) Pan fo awdurdod bwyd wedi cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, ni chaiff gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r drosedd.
Cynnwys hysbysiad terfynol
schedule 2 paragraph 6 6. Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth am—
schedule 2 paragraph 6 a (a)swm y gosb,
schedule 2 paragraph 6 b (b)y seiliau dros osod y gosb,
schedule 2 paragraph 6 c (c)sut y mae rhaid talu,
schedule 2 paragraph 6 d (d)y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y mae rhaid talu o’i fewn,
schedule 2 paragraph 6 e (e)manylion y disgownt am dalu’n gynnar,
schedule 2 paragraph 6 f (f)hawliau apelio, ac
schedule 2 paragraph 6 g (g)canlyniadau methu â thalu (gan gynnwys manylion y cosbau am dalu’n hwyr).
Disgownt am dalu’n gynnar
schedule 2 paragraph 7 7. Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo wedi cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw ryddhau’r hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol.
Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol
schedule 2 paragraph 8 8.—(1) Caiff person sy’n cael hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
schedule 2 paragraph 8 2 a (a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
schedule 2 paragraph 8 2 b (b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
schedule 2 paragraph 8 2 c (c)bod y penderfyniad yn afresymol;
schedule 2 paragraph 8 2 d (d)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.
Apelau
schedule 2 paragraph 9 9.—(1) Mae apêl o dan baragraff 8 yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
(2) Mae hysbysiad terfynol wedi ei atal dros dro wrth aros i’r apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.
(3) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf—
schedule 2 paragraph 9 3 a (a)tynnu’n ôl, cadarnhau neu amrywio’r gosb neu’r hysbysiad terfynol,
schedule 2 paragraph 9 3 b (b)cymryd unrhyw gamau y gallai’r awdurdod bwyd fod wedi eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb neu’r hysbysiad terfynol, neu
schedule 2 paragraph 9 3 c (c)anfon y penderfyniad o ran cadarnhau’r gosb neu’r hysbysiad terfynol, neu unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, i’r awdurdod priodol.
Methu â thalu ar ôl 28 o ddiwrnodau (cosb am dalu’n hwyr)
schedule 2 paragraph 10 10.—(1) Rhaid i’r gosb gael ei thalu o fewn 28 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad terfynol.
(2) Os na thelir y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau, cynyddir y swm sy’n daladwy 50%.
(3) Yn achos apêl, mae’r gosb (pa un a yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi ei hamrywio neu ei chadarnhau) yn daladwy o fewn 14 o ddiwrnodau i benderfynu’r apêl (os yw’r apêl yn aflwyddiannus), ac os nad yw wedi ei thalu o fewn 14 o ddiwrnodau, cynyddir swm y gosb 50%.
Adennill taliadau
schedule 2 paragraph 11 11. Caiff awdurdod bwyd adennill unrhyw gosb a osodir o dan yr Atodlen hon, ac unrhyw gosb ariannol am dalu’n hwyr, ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.
Achosion troseddol
schedule 2 paragraph 12 12.—(1) Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ar gyfer cosb ariannol benodedig i unrhyw berson—
schedule 2 paragraph 12 1 a (a)ni chaniateir dechrau achos troseddol am y drosedd yn erbyn y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad o fwriad, a
schedule 2 paragraph 12 1 b (b)os yw’r person hwnnw yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno.
(2) Os gosodir cosb ariannol benodedig ar unrhyw berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.
Tynnu hysbysiad yn ôl
schedule 2 paragraph 13 13. Caiff awdurdod bwyd, ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig, dynnu’n ôl hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol benodedig.