RHAN 3Cyfyngiadau ar hyrwyddo a chyflwyno bwyd penodedig
Cyfyngu ar gyflwyno bwyd penodedig – ar-lein
regulation 7 7.—(1) Ni chaiff person cymhwysol beri i fwyd penodedig gael ei gynnig ar werth ar farchnadle ar-lein—
regulation 7 1 a (a)ar dudalen gartref (pa un a yw’r defnyddiwr yn mynd i mewn i’r marchnadle ar-lein drwy’r dudalen gartref ai peidio);
regulation 7 1 b (b)tra bo defnyddiwr yn chwilio am gynhyrchion heblaw bwyd Atodlen 1 neu’n pori drwy gynhyrchion o’r fath, oni bai bod paragraff (4) neu (5) yn gymwys;
regulation 7 1 c (c)tra bo defnyddiwr yn chwilio am fwyd Atodlen 1 neu’n pori drwy fwyd o’r fath, oni bai—
regulation 7 1 c i (i)bod y bwyd penodedig yn dod o fewn yr un categori yn Atodlen 1, neu
regulation 7 1 c ii (ii)bod paragraff (4) neu (5) yn gymwys;
regulation 7 1 d (d)ar dudalen nas agorir yn fwriadol gan y defnyddiwr (megis tudalen “naid” neu “hyrddiad brandio”);
regulation 7 1 e (e)ar dudalen hoff gynhyrchion, oni bai bod y defnyddiwr wedi prynu’r bwyd penodedig o’r blaen (naill ai mewn siop neu ar farchnadle ar-lein) neu wedi ei nodi’n fwriadol fel hoff gynnyrch, ond ni chaniateir rhoi mwy o amlygrwydd i fwyd penodedig nag i gynhyrchion eraill ar dudalen hoff gynhyrchion;
regulation 7 1 f (f)ar dudalen dalu.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gwahardd cynnig bwyd penodedig ar werth ar dudalen a agorir yn fwriadol gan ddefnyddiwr at ddiben pori drwy gynigion arbennig yn gyffredinol.
(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â busnes cymhwysol nad yw ond yn gwerthu bwyd o un categori a restrir yn Atodlen 1 neu sy’n gwerthu bwyd o’r fath yn bennaf.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
regulation 7 4 a (a)pan fo defnyddiwr yn chwilio am fwyd neu’n ei bori (pa un a yw’n fwyd penodedig ai peidio), a
regulation 7 4 b (b)pan fo’r person cymhwysol yn peri i fwyd penodedig gael ei gynnig ar werth ynghyd â’r bwyd y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) fel rhan o gynnig arbennig perthnasol.
(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
regulation 7 5 a (a)pan fo defnyddiwr yn pori drwy gategori cyffredinol o gynnyrch sy’n cynnwys y bwyd penodedig (megis categorïau sy’n ymwneud â thymor, neu nodweddion maeth neu ddeiet);
regulation 7 5 b (b)mewn perthynas â chwilio—
regulation 7 5 b i (i)pan fo defnyddiwr yn chwilio am gategori cyffredinol o gynnyrch sy’n cynnwys y bwyd penodedig;
regulation 7 5 b ii (ii)pan fo term chwilio a fewnbynnwyd gan y defnyddiwr yn cyfateb yn gyfan gwbl neu’n rhannol—
regulation 7 5 b ii aa (aa)i’r enw y mae’r bwyd penodedig wedi ei farchnata odano, neu
regulation 7 5 b ii bb (bb)i gynhwysyn sydd wedi ei restru ar becynwaith y bwyd penodedig.
(6) Yn y rheoliad hwn—
regulation 7 6 a (a)ystyr “tudalen dalu” yw tudalen a ddangosir i ddefnyddiwr fel rhan o’r broses dalu, megis tudalen sy’n rhestru eitemau y mae’r defnyddiwr wedi eu dethol hyd hynny i’w prynu, neu dudalen sy’n ymdrin â thalu, casglu neu ddanfon;
regulation 7 6 b (b)ystyr “tudalen hoff gynhyrchion” yw tudalen a agorir gan ddefnyddiwr at ddiben pori drwy gynhyrchion y mae wedi eu prynu o’r blaen neu wedi eu nodi’n fwriadol fel hoff gynhyrchion;
regulation 7 6 c (c)ystyr “tudalen gartref” yw unrhyw un neu ragor o—
regulation 7 6 c i (i)tudalen gyhoeddus lefel uchaf marchnadle ar-lein;
regulation 7 6 c ii (ii)tudalen gyhoeddus lefel uchaf adran groser marchnadle ar-lein.