ID badges: Hide | Show

RHAN 3Cyfyngiadau ar hyrwyddo a chyflwyno bwyd penodedig

Cyfyngu ar hyrwyddiadau pris ar gyfer bwyd penodedig

regulation 5 5.—(1Ni chaiff person cymhwysol gynnig bwyd penodedig ar werth fel rhan o hyrwyddiad pris ar sail swmp (naill ai mewn siop neu ar farchnadle ar-lein).

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “hyrwyddiad pris ar sail swmp” yw—

regulation 5 2 a (a)hyrwyddiad amleitem, sef cynnig datganedig sy’n rhoi cymhelliad ariannol dros brynu eitemau lluosog o gymharu â phrynu pob eitem ar wahân (gan gynnwys “3 am bris 2”, “3 am £10”, neu “prynu 6 ac arbed 25%”);

regulation 5 2 b (b)hyrwyddiad sy’n dangos bod eitem, neu unrhyw ran o eitem, yn rhad ac am ddim (gan gynnwys “50% yn ychwanegol am ddim”, neu “prynu un eitem a chael un arall am ddim”).

(3Nid yw hyrwyddiad amleitem yn cynnwys cynnig arbennig perthnasol.