RHAN 2Ystyr bwyd penodedig a busnes cymhwysol
Busnesau cymhwysol
regulation 4 4.—(1) At ddibenion rheoliadau 5 (cyfyngu ar hyrwyddiadau pris), 6 (cyfyngu ar gyflwyno mewn siop) a 7 (cyfyngu ar gyflwyno ar-lein) mae busnes yn “busnes cymhwysol”—
regulation 4 1 a (a)os yw person, wrth gynnal y busnes, yn cynnig ar werth i ddefnyddwyr (naill ai mewn siop neu ar farchnadle ar-lein) unrhyw eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu,
regulation 4 1 b (b)os oedd gan y busnes, ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn ariannol pan ddigwyddodd unrhyw gynnig i werthu o’r fath, 50 o gyflogeion neu ragor, ac
regulation 4 1 c (c)os nad yw’r busnes—
regulation 4 1 c i (i)yn gartref gofal;
regulation 4 1 c ii (ii)yn sefydliad addysgol;
regulation 4 1 c iii (iii)yn fwyty.
(2) At ddibenion rheoliad 8 (cyfyngu ar hyrwyddiadau ail-lenwadau diodydd) mae busnes yn “busnes cymhwysol”—
regulation 4 2 a (a)os yw person, wrth gynnal y busnes, yn cynnig ar werth i ddefnyddwyr (mewn siop) unrhyw ddiod y mae rheoliad 8 yn gymwys iddi,
regulation 4 2 b (b)os oedd gan y busnes, ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn ariannol pan ddigwyddodd unrhyw gynnig i werthu o’r fath, 50 o gyflogeion neu ragor, ac
regulation 4 2 c (c)os nad yw’r busnes—
regulation 4 2 c i (i)yn gartref gofal;
regulation 4 2 c ii (ii)yn sefydliad addysgol.
(3) At ddibenion penderfynu faint o gyflogeion sydd gan fusnes, mae busnes a gynhelir yn unol â chytundeb masnachfraint i’w drin fel rhan o fusnes y breiniwr ac nid fel busnes ar wahân a gynhelir gan y deiliad braint.
(4) Mae “cytundeb masnachfraint” yn bodoli—
regulation 4 4 a (a)pan fo un ymgymeriad (“y deiliad braint”) ac ymgymeriad arall (“y breiniwr”) yn cytuno bod y deiliad braint yn cynnal gweithgaredd busnes sy’n cynnwys gwerthu neu ddosbarthu bwyd (“y busnes masnachfraint”), a
regulation 4 4 b (b)pan fo paragraffau (5) a (6) yn gymwys i’r busnes masnachfraint.
(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r breiniwr wedi cytuno ar y canlynol—
regulation 4 5 a (a)y bwyd a ddarperir yn y busnes masnachfraint,
regulation 4 5 b (b)golwg mewnol neu allanol y fangre y mae’r busnes masnachfraint yn cael ei gynnal ynddi, ac
regulation 4 5 c (c)y model busnes a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r busnes masnachfraint.
(6) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yn debyg i faterion ymgymeriadau eraill y mae’r breiniwr wedi ymrwymo i drefniadau contractiol cymaradwy mewn cysylltiad â hwy.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn—
regulation 4 7 a (a)cyflogeion busnes yw’r personau sydd wedi eu cyflogi at ddibenion y busnes;
regulation 4 7 b (b)ystyr “cartref gofal” yw man yng Nghymru lle y darperir gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn ac nad yw’n darparu bwyd ond i breswylwyr y cartref gofal hwnnw ac sy’n codi tâl am y gwasanaeth hwnnw fel rhan o gost y llety;
regulation 4 7 c (c)ystyr “contract cyflogaeth” yw contract gwasanaeth, sydd naill ai’n ddatganedig neu’n oblygedig, ac (os yw’n ddatganedig) naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen;
regulation 4 7 d (d)ystyr “sefydliad addysgol” yw sefydliad sy’n darparu addysg yn unig pan fo’r addysg honno yn cael ei darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddisgyblion sydd o dan 18 oed;
regulation 4 7 e (e)ystyr “cyflogai” yw unigolyn sydd wedi ymrwymo i gontract cyflogaeth neu sy’n gweithio o dan gontract o’r fath, pa un a yw’r contract hwnnw ar gyfer cyflogaeth llawnamser neu ran-amser;
regulation 4 7 f (f)ystyr “bwyty” yw busnes y mae ei fangre yn cael ei defnyddio yn bennaf ar gyfer paratoi neu werthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith, naill ai ar neu oddi ar y fangre (gan gynnwys caffi, siop goffi, busnes bwyd cyflym neu fusnes cludfwyd).