RHAN 5Gorfodi
Hysbysiad gwella
term hysbysiad gwella regulation 10 10. Os oes gan awdurdod bwyd seiliau rhesymol dros gredu bod person yn methu â chydymffurfio ag un neu ragor o reoliadau 5 i 8, caniateir iddo, drwy hysbysiad a gyflwynir i’r person hwnnw (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwella”)—
regulation 10 a (a)datgan ar ba sail y mae’r awdurdod yn credu bod y person yn methu â chydymffurfio ag un neu ragor o reoliadau 5 i 8,
regulation 10 b (b)pennu’r materion sy’n peri bod y person yn methu â chydymffurfio,
regulation 10 c (c)pennu’r camau y mae rhaid i’r person eu cymryd, ym marn yr awdurdod, er mwyn sicrhau cydymffurfedd, a
regulation 10 d (d)ei gwneud yn ofynnol i’r person gymryd y camau hynny, neu gamau sy’n gyfwerth o leiaf â’r camau hynny, o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.